Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r uchafswm y bydd sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd mewn grym yn gallu ei godi drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r uchafswm a fydd yn gymwys. Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn rhagnodi uchafsymiau is mewn cysylltiad â rhai cyrsiau.

Mae rheoliad 7 yn darparu, pan fo cwrs yn gwrs breiniol, fod ffioedd i’w trin fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad y darperir y cwrs ar ei ran, a bod rhaid i gyfanswm y ffioedd y mae myfyriwr yn eu talu beidio â bod yn fwy na’r swm a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

 

Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(3), 5(9) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015([1]).

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015([2]);

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;

ystyr “hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“initial training of teachers”) yw hyfforddiant neu addysg


â’r nod o wneud personau, nad ydynt yn athrawon, yn addas i fod yn athrawon;

ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Yr uchafswm rhagnodedig

3. Yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5 a 6, yr uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 yw £9,000.

Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer blynyddoedd academaidd terfynol cyrsiau a blynyddoedd academaidd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon

4. At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £4,500 mewn cysylltiad â:

(a)     blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)     cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.

Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer cyrsiau rhyngosod

5. At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,800 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod:

(a)     pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(b)     os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.

Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer astudio a lleoliadau gwaith dramor

6. At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,350 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor:


 

(a)     pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(b)     os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.

Ffioedd sy’n daladwy i bersonau eraill

7. At ddibenion adran 5(9) o Ddeddf 2015, mae ffioedd i’w trin fel pe baent yn cael eu talu i sefydliad rheoleiddiedig o dan adran 5(2)(a) o Ddeddf 2015 yn yr amgylchiadau a ganlyn, sef pan fo’r ffioedd yn daladwy i berson mewn cysylltiad â chwrs cymhwysol a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig gan y person hwnnw.

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 

 

 



([1])           2015 dccc 1.

([2])           O.S. 2015/54 (Cy. 5).